|
Mae'r Comisiwn Archwilio yng Nghymru yn cyhoeddi llythyrau archwilio blynyddol i fwyhau gonestrwydd a thryloywder y broses archwilio yr ydym yn gyfrifol amdani. Gellir dod o hyd i'r holl lythyrau llywodraeth leol (gan gynnwys byrddau prawf, heddlu, tân ac awdurdodau parciau cenedlaethol) a chyrff iechyd yma.
Diben y llythyr archwilio blynyddol yw i gyfathrebu i'r corff archwiliedig cwmpas, natur ac ystod y gwaith archwilio sydd wedi cael ei gynnal yn ystod y cyfnod ac i grynhoi barn a chasgliadau yr archwilydd, lle fod angen, a materion o sylwedd neu faterion sylweddol sy'n codi o'r gwaith.
Mae'r llythyrau archwilio blynyddol yn canolbwyntio ar y materion allweddol sy'n codi o'r gwaith archwilio, y credai'r archwilwyr y dylid dwyn sylw aelodau'r cyrff archwiliedig tuag atynt. Felly, efallai bydd llythyrau archwilio blynyddol yn traws-gyfeirio at adroddiadau eraill neu femoranda ar ganlyniadau, neu faterion sy'n codi o, agweddau penodol o waith archwilwyr, a gafodd eu cyhoeddi yn ystod y cyfnod ond nad ydynt ar gael yma. |