Bob blwyddyn, caiff tua £3 biliwn
o arian y trethdalwyr ei wario ar lywodraeth leol yng Nghymru
a £4 biliwn ar y GIG. Prif nod y Comisiwn Archwilio
yng Nghymru yw rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr gwasanaethau
bod cynghorau a chyrff y GIG yn gwario arian cyhoeddus yn
briodol ac yn cyflawni gwerth am arian, tra'n lleihau gwastraff
a gwella perfformiad. Mae ein gwaith yn cynnwys:
- Penodi archwilwyr allanol i bob cyngor a chorff GIG
yng Nghymru.
- Sicrhau fod yr archwilwyr apwyntiedig yn cydymffurfio
a'r Côd
Ymarfer Archwilio sy'n nodi sut y dylid cynnal yr
archwiliad ac adrodd ar ei ganlyniadau. Mae'r Comisiwn
yn asesu gwaith yr archwilwyr yn erbyn y safonnau a
nodir yn y Côd drwy gynnal adolygiadau rheoli
safon.
- Ymchwilio a chyflwyno adroddiadau yn genedlaethol
i helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
- Cynnal arolygiadau o lywodraeth leol. Mae hyn yn cynnwys
arolygiadau fel rhan o'r Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella
(WPI), arolygiadau ar y cyd o wasanaethau cymdeithasol
gydag Arolygiaeth
Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac arolygiadau awdurdodau
addysg gydag Estyn.
Byddwn yn parhau i weithio'n agos â'n cydweithwyr
yn y Comisiwn Archwilio yn Lloegr a rhannu arfer da a
dealltwriaeth ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Ar y run
pryd, byddwn yn sicrhau bode in gwaith archwilio a gwella
wedi'i anelu at wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Ein lleoliad
Rydym yn cyflogi oddeutu 180 o bobl sy'n gweithio o'n
prif swyddfa yng Nghaerdydd a swyddfeydd rhanbarthol yng
Nghaerfyrddin a Glannau Dyfrdwy. Ond mae'r rhan fwyaf
o'n gweithwyr yn gweithio mewn lleoliadau priodol eraill
- o fewn swyddfeydd cynghorau, cyrff iechyd, awdurdodau
tân a heddlu a pharciau cenedlaethol ledled Cymru.
Sut i gysylltu â ni
Am fwy o wybodaeth am waith y Comisiwn Archwilio yng
Nghymru neu am fanylion am eich archwiliwr allanol lleol,
cysylltwch â ni Gwybodaeth
cysylltu. Mae taflen sy'n dwyn y teitl Cyfrifon
Cynghorau: Eich Hawliau yn nodi hawliau'r cyhoedd
a phwerau'r archwiliwr a gellir cael copi ohoni o'r un
cyfeiriad.
Nid wnelo'r hawliau statudol yma gyda'r archwiliad o
gyrff y GIG. Fodd bynnag, mae gan y cyhoedd yr hawl i
roi gwybodaeth i archwilwyr cyrff y GIG ar unrhyw amser
- ac i archwilwyr awdurdodau lleol - a fyddai'n gadael
iddo/iddi wybod am ganlyniad cyffredinol unrhyw ymchwiliadau
dilynol o'r materion a godwyd.
Gwrth-dwyll a llygredd
Mae'r Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 yn rhoi amddiffyniad
i staff awdurdodau lleol a chyrff y GIG sy'n 'chwythu'r
chwiban' ar dwyll, llygredd a diffyg gwerth am arian o
fewn yr awdurdod sy'n eu cyflogi. Fe all Uned Gwrth-Dwyll
a Llygredd y Comisiwn weithredu fel y 'person penodedig'
yn ôl y Ddeddf i dderbyn gwybodaeth gan gyflogedigion
sy'n teimlo fel na allent ddatgelu dim drwy weithdrefnau
mewnol yr awdurdod sy'n eu cyflogi. Mae yna linell ffôn
pwrpasol sy'n cael ei ateb gan staff y Comiswin Archwilio
sydd wedi cael eu hyfforddi i ddelio gyda'r fath alwadau.
Os hoffech gofnodi rhagdybiaeth o dwyll, llygredd neu
diffyg gwerth am arian, cysylltwch a ni ar 020 7630 1019.
|