Audit Commission: Hafan
Lleoliad :  TU MEWN I'R COMISIWN YNG NGHYMRU
Newid Cyfansoddiadol yng Nghymru

Mae'r amgylchedd gwasanaeth cyhoeddus wedi newid yn sylweddol ers y dechreuodd y Comisiwn Archwilio ei waith am y tro cyntaf ym 1983. Mae'r Comisiwn ei hun wedi derbyn tasgau a chyfrifoldebau newydd yn ystod y cyfnod hwnnw, sydd bellach wedi eu cyfuno yn Neddf y Comisiwn Archwilio 1998.

Bu sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn symbylu newidiadau pellach i'r fframwaith y mae'r gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio ynddo, ac mae wedi gosod agenda heriol.

O ran y GIG, mae'r datblygiadau yn cynnwys:

  • diddymu'r farchnad fewnol;
  • dyletswydd newydd o reolaeth glinigol ar gyfer ymddiriedolaethau;
  • sefydlu'r Comisiwn Gwella Iechyd i oruchwylio safonau gofal iechyd yn y GIG; a
  • grwpiau iechyd lleol newydd (LHGs) i wella gwasanaethau sylfaenol a chymunedol lleol.
Yng Nghymru, mae'r Cynllun GIG Gwella Iechyd yng Nghymru hefyd wedi gosod ffocws newydd ar safonau o ran cyflwyno gwasanaeth ac opsiynau ar gyfer gweithio yn well.

O ran llywodraeth leol, mae'r datblygiadau yn cynnwys:
  • yr agenda foderneiddio, yn cwmpasu sefydlu strategaethau cymunedol, strwythurau gwleidyddol newydd, fframweithiau ethegol a chytundebau polisi gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru;
  • dyletswydd i hyrwyddo "ffyniant" economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol;
  • dyletswydd i sicrhau gwerth gorau i drethdalwyr a defnyddwyr gwasanaethau;
  • cynghorau a gwasanaethau enghreifftiol; a
  • strwythurau gwneud penderfyniadau newydd.

Mae'r Comisiwn yn ymroddedig i ymateb i'r agenda newid yng Nghymru a'i chynnal ac i weithio'n agos gyda'r Cynulliad Cenedlaethol, awdurdodau, ymddiriedolaethau, Grwpiau Iechyd Lleol, a chyrff cynrychioliadol eraill. Mae hefyd yn ymroddedig i ymgynghori â'i gyfranddeiliaid i sicrhau y caiff eu safbwyntiau eu hystyried.

Bydd y Comisiwn yn parhau i ganolbwyntio ar ei brif rôl o ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl a defnyddwyr gwasanaethau. Wrth i'r newidiadau hyn mewn llywodraeth leol a'r GIG ddod i rym, gallant ond atgyfnerthu'r pwyslais ar sicrhau gwerth gorau ar gyfer pobl Cymru sydd wedi bod wrth wraidd gwaith y Comisiwn erioed.

Mae ein strategaeth ddiweddaraf Datblygu Gwelliannau gyda'n gilydd (2001-2004) yn ategu ymagwedd strategol penodol y Comisiwn i Gymru.


Ail-osodwch Dewis Iaith Diofyn

Dadlwythwch Adobe Acrobat Reader Dadlwythwch Adobe Acrobat Reader

© Y Comisiwn Archwilio ar gyfer Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr a Chymru 2001