Audit Commission: Hafan
Lleoliad :  TU MEWN I'R COMISIWN YNG NGHYMRU
Gwerth am arian

Mae hyrwyddo gwerth am arian yn parhau i fod un o brif gyfrifoldebau'r Comisiwn Archwilio. Un o gryfderau mwyaf y Comisiwn yw ei fod yn gweithio ar lefelau lleol a chenedlaethol ac ar draws sectorau, yn aml yn edrych ar wasanaethau o safbwynt y bobl sy'n eu defnyddio ac sy'n talu amdanynt.

Astudiaethau cenedlaethol

Mae'r Comisiwn wedi datblygu rhaglen dreigl o astudiaethau gwerth-am-arian (VFM), mewn cydweithrediad agos â'r rhai sy'n gweithio mewn llywodraeth leol a gwasanaethau iechyd a'r rhai sy'n eu defnyddio. Yn amlwg, nid yw'n bosibl asesu pob gwasanaeth yn fanwl bob blwyddyn, felly mae'r astudiaethau yn canolbwyntio ar feysydd o wariant sylweddol, lle gellir gwneud gwelliannau go iawn, ac ar themâu a phynciau cyfredol sy'n dod i'r golwg.

Ymgynghora'r Comisiwn yn eang ar ei ddewis o astudiaethau, fel y gallent fynd i'r afael â'r materion sydd bwysicaf i ddefnyddwyr a'r rhai sy'n rhan o'u cyflwyno, fel bod unrhyw dargedau a osodir ar gyfer gwelliant yn realistig. Bydd hyn yn bwysig yn y dyfodol i sicrhau bod gwaith y Comisiwn yn adlewyrchu'r agenda sy'n newid a blaenoriaethau sy'n datblygu yn benodol yng Nghymru.

Cynhelir pob astudiaeth gan dîm canolog bach, sydd fel arfer yn cynnwys ymarferwyr yn y maes a adolygir, dan arweiniad grwp ymgynghorol. Yn ogystal ag ymchwilio i'r dystiolaeth sydd ar gael ac ymweld â detholiad cynrychioliadol o safleoedd astudiaeth, gall y tîm gynnal arolwg o safbwyntiau defnyddwyr.

Fel arfer mae astudiaethau yn arwain at gynhyrchu sawl math o ddeunydd pwysig - fel arfer adroddiadau cenedlaethol i lywio polisi ac arfer, canllawiau i archwilwyr sydd yn asesu arfer lleol mewn awdurdodau ac ymddiriedolaethau unigol, papurau rheoli ac offer hunan-gymorth. Mae'r deunyddiau hyn yn:

  • darparu meincnodau ar gyfer cyrff archwiliedig i weld pa mor dda y maent yn perfformio o'u cymharu ag eraill ac i nodi'r cyfle ar gyfer gwelliannau gwasanaeth ac effeithlonrwydd cost; a
  • crynhoi a lledaenu arfer da fel y gall sefydliadau ddysgu oddi wrth ei gilydd.

Themâu trawsbynciol

Yn gynyddol, mae astudiaethau gwerth-am-arian y Comisiwn yn canolbwyntio ar faterion trawsbynciol, gan adlewyrchu'r angen i gyrff sector cyhoeddus weithio mewn partneriaeth yn fwy nag erioed o'r blaen. Mae astudiaethau a wnaethpwyd yn ddiweddar gan y Comisiwn, megis gwasanaethau adsefydlu a gwasanaethau adfer ar gyfer pobl hyn, a gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer pobl hyn, yn ystyried rôl pob asiantaeth sy'n rhan o gyflwyno'r gwasanaethau hyn.

Mae'r pwyslais ar faterion trawsbynciol yn arbennig o berthnasol i'r agenda sy'n newid yng Nghymru.


Ail-osodwch Dewis Iaith Diofyn

Dadlwythwch Adobe Acrobat Reader Dadlwythwch Adobe Acrobat Reader

© Y Comisiwn Archwilio ar gyfer Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr a Chymru 2001