Audit Commission: Hafan
Lleoliad :  TU MEWN I'R COMISIWNYNG NGHYMRU
Dangosyddion Perfformiad

Nod y Comisiwn yw gwella ansawdd ac effeithiolrwydd gwasanaethau lleol drwy hybu a llywio'r ddadl gyhoeddus ynglyn â'r gwahaniaethau rhwng cynghorau o ran safonau'r gwasanaethau y maent yn eu darparu a sut y mae'r rhain wedi newid dros amser.

Ym 1992, gosodwyd dyletswydd gyfreithiol ar y Comisiwn Archwilio i lunio rhestr o ddangosyddion bob blwyddyn ar gyfer mesur perfformiad gwasanaethau llywodraeth leol. Mae'n ofynnol i gynghorau fesur a llunio adroddiadau ar eu perfformiad eu hunain yn erbyn y dangosyddion hyn bob blwyddyn. Mae'n rhaid iddynt gyhoeddi'r canlyniadau mewn papur lleol o fewn naw mis i ddiwedd y flwyddyn ariannol berthnasol, ac yna mae'r Comisiwn yn cyhoeddi yn ddwyieithog ganlyniadau'r awdurdodau yng Nghymru.

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol bellach yn gosod dangosyddion perfformiad - gyda chyngor o'r Comisiwn Archwilio - fel rhan o'r drefn gwerth gorau, sy'n gofyn i awdurdodau anelu at sicrhau gwelliant parhaus. Yn dilyn ymgynghoriad eang, penderfynodd y Comisiwn beidio a gosod dangosyddion perfformiad statudol ar gyfer 2001/02, fel cydnabyddiaeth o bryderon ynglyn â chael dwy set o DP cenedlaethol. Yn lle hynny mae'r Comisiwn yn datblygu 'llyfrgell' electronig o ddiffiniadau o ddangosyddion perfformiad lleol ar y cyd ag IDeA a Syniad. Gall awdurdodau ddefnyddio'r rhain i helpu mesur a chymharu eu perfformiad mewn gwasanaethau nas cwmpesir gan y DP cenedlaethol. Mae'r Comisiwn hefyd wedi sefydlu 'Canolfan ar gyfer Mesur Perfformiad' i roi cyngor ar arfer da wrth fesur perfformiad.

Gellir lawrlwytho gwybodaeth Dangosyddion Perfformiad yng Nghymru o wefan yr Uned Ddata Llywodraeth Leol yma.


Ail-osodwch Dewis Iaith Diofyn

Dadlwythwch Adobe Acrobat Reader Dadlwythwch Adobe Acrobat Reader

© Y Comisiwn Archwilio ar gyfer Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr a Chymru 2001