Audit Commission: Hafan
Lleoliad :  TU MEWN I'R COMISIWN YNG NGHYMRU
Apwyntio Archwilwyr

Mae archwilwyr yn gweithredu i warchod arian cyhoeddus ar y lefel leol. Maent yn archwilio cyfrifon llywodraeth leol a chyrff GIG yn ffurfiol ac yn cynhyrchu adroddiadau gwerth-am-arian (VFM) ar y cyrff unigol a archwilir i'w cynorthwyo i wella eu gwasanaethau. Mae archwilwyr hefyd yn archwilio cynlluniau gwerth gorau blynyddol cynghorau.

Mae archwiliad cyhoeddus yn llawer ehangach na'r hyn a gynhelir yn y sector preifat ac yn gosod dyletswyddau a chyfrifoldebau trwm iawn ar yr archwilwyr ac mae cymhlethdodau llywodraeth leol a'r GIG yn gofyn bod archwilwyr yn meddu ar wybodaeth archwilio arbenigol. Mae'r Comisiwn Archwilio yn ystyried hyn wrth benderfynu ar benodiad archwilwyr i unrhyw awdurdod lleol neu gorff GIG. Ar hyn o bryd mae'r Comisiwn yn penodi archwilwyr o'r Archwiliad Dosbarth, asiantaeth hyd braich y Comisiwn neu oddi wrth PricewaterhouseCoopers, cwmni cyfrifyddu preifat cymeradwy i gynnal archwiliadau yng Nghymru. O 2002 ymlaen, bydd y Comisiwn yn penodi hefyd KPMG a Deloitte a Touche i gynnal gwaith yng Nghymru.

Am fwy o fanylion ar y broses archwilio, neu i ddarganfod pwy sy'n archwilio eich awdurdod, gweler Apwyntio Archwilwyr a'r Côd Ymarfer Archwilio ar brif wefan y Comisiwn Archwilio.


Ail-osodwch Dewis Iaith Diofyn

Dadlwythwch Adobe Acrobat Reader Dadlwythwch Adobe Acrobat Reader

© Y Comisiwn Archwilio ar gyfer Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr a Chymru 2001