Audit Commission: Hafan
Lleoliad :  TU MEWN I'R COMISIWN YNG NGHYMRU
Gweithio mewn Partneriaeth

Mae gan y Comisiwn Archwilio hanes hir o weithio gydag arolygiaethau ac asiantaethau proffesiynol eraill. Yn ystod y 1990au, datblygwyd partneriaethau agosach er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfraniad pwerus y gall cydweithrediad o'r fath ei wneud tuag at gynnal safonau cyhoeddus.

Ym mis Hydref 1998, lansiwyd y Fforwm Archwilio Cyhoeddus fel canolbwynt ar gyfer meddwl datblygiadol ynglyn ag effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd archwiliad cyhoeddus ac i'w hehangu. Ymhlith ei aelodau mae'r pedair asiantaeth archwilio genedlaethol: y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO), y Swyddfa Archwilio Gogledd Iwerddon (NIAO), y Comisiwn Archwilio ac Audit Scotland. Mae'r Fforwm yn rhoi ffocws strategol ar faterion sy'n torri ar draws gwaith asiantaethau ac mae'n datblygu egwyddorion cyffredin ar gyfer archwiliad cyhoeddus.

Gall partneriaethau esgor ar gyfuniad pwerus o sgiliau gan gyfuno profiad traws-sectorol y Comisiwn a'i allu i asesu trefniadau ar gyfer rheoli adnoddau, gydag arbenigedd proffesiynol arolygiaethau. Mae partneriaethau hefyd yn rhoi mwy o symbyliad ar gyfer newid trwy gyflwyno un neges ar y cyd ac ar yr un pryd. Wrth i'r math hwn o waith ehangu, yr her i'r nifer gynyddol o gyrff archwilio, arolygu a rheoleiddio eraill fydd cydweithio yn effeithiol yng Nghymru yn yr un ffordd ag y gofynnir fwyfwy i ddarparwyr gwasanaethau ei wneud.

Un enghraifft o'r ffordd y mae'r Comisiwn yn gweithredu mewn partneriaeth yw'r gwaith a wnaethpwyd gydag Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol. Rydym yn ymgymryd ag Adolygiadau ar y Cyd o nifer o adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol bob blwyddyn a byddwn yn adolygu bob awdurdod gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru dros gyfnod o bum mlynedd.

Mae'r adolygiadau yn rhoi asesiad annibynnol o ba mor dda y mae'r cyhoedd yn cael eu gwasanaethu gan wasanaethau cymdeithasol yn lleol, yn nodi'r hyn mae awdurdodau yn ei wneud yn dda ac yn amlygu meysydd lle y gallant wella.

Rhyddheir adroddiadau i'r cyhoedd yn ogystal a'r rhai sy'n darparu'r gwasanaeth. Mae'r tîm adolygu hefyd yn cyhoeddi adroddiad blynyddol, bwletinau rheolaidd ar arfer da a thaflenni sy'n hysbysu'r cyhoedd a'r cynghorwyr ynglyn â manylion adolygiad.

Mae'r Comisiwn hefyd yn gweithio mewn ffordd debyg gydag Estyn wrth arolygu awdurdodau addysg lleol ac yn datblygu cyfleoedd ar gyfer cydweithio â'r Comisiwn Gwella Iechyd.

Mae gweithio'n agos gyda phartneriaid llywodraethol eraill yng Nghymru megis Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) a Syniad er mwyn rhannu profiadau, cydweithio ar gymorth i awdurdodau lleol, a sicrhau nad oes dyblygiad ymdrech, yn rhan allweddol o'r arferion gweithio yng Nghymru.

Mae'r Comisiwn hefyd yn gweithio ar y cyd gyda'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar nifer o brosiectau yng Nghymru.


Ail-osodwch Dewis Iaith Diofyn

Dadlwythwch Adobe Acrobat Reader Dadlwythwch Adobe Acrobat Reader

© Y Comisiwn Archwilio ar gyfer Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr a Chymru 2001