Audit Commission: Hafan
Lleoliad :  TU MEWN I'R COMISIWN YNG NGHYMRU
Y Broses Archwilio

Mae'n rhaid i archwilwyr wneud eu gwaith yn annibynnol ac yn wrthrychol, yn unol â'r Côd Ymarfer Archwilio.

Caiff y Côd Ymarfer Archwilio ei ddiweddaru'n rheolaidd gan y Comisiwn, yn dilyn yngynghoriad eang â phartion sydd â ddiddordeb, ac mae wedi'i gymeradwyo'n llawn gan y Senedd. Mae'r Côd yn rhestru dyletswyddau cyffredinol archwilwyr ac yn nodi:

  • sut ddylent gynnal yr archwiliad; a
  • sut ddylent gyhoeddi canlyniadau'r archwiliad.

Cynnal yr archwiliad

Mae'n rhaid i'r archwilydd edrych ar y canlynol;

  • Cyfrifon ariannol
    Mae'n rhaid i'r archwilydd fynegi barn ynglyn ag a yw cyfrifon blynyddol corff a archwiliwyd yn rhoi 'cyflwyniad teg' o sefyllfa ariannol yr awdurdod lleol, neu'n rhoi darlun 'cywir a theg' ar gyfer cyrff GIG. Mae'r farn hon yn golygu adolygu systemau cyfrifo megis cyflogres, taliadau ac incwm, ac archwiliad manwl o ddatganiadau ariannol a chyfrifon terfynol gan gynnwys balansau arian parod/banc, dyledwyr, stociau a chredydwyr.

  • Twyll a llygredd
    Y cyrff a archwiliwyd eu hunain sy'n bennaf gyfrifol am atal twyll a llygredd. Fodd bynnag, mae gofyn i'r archwilydd sicrhau bod bob corff a archwiliwyd wedi cymryd camau rhesymol i atal twyll-megis sefydlu systemau rheoli mewnol digonol sy'n gwahanu dyletswyddau, trefniadau awdurdodi cywir a swyddogaeth archwilio mewnol digonol.

  • Gwerth am arian
    Tasg draddodiadol archwiliad cyhoeddus yw gwneud yn siwr fod cyllid yn cael ei ddefnyddio'n gywir at ddibenion cyfreithlon. Fodd bynnag, defnyddio adnoddau'n effeithiol oedd y newid allweddol a ychwanegwyd at gyfrifoldebau archwilwyr pan sefydlwyd y Comisiwn Archwilio yn 1983.

  • Cyfreithlondeb
    Cyfrifoldeb hanfodol arall sydd gan archwilwyr yw'r dasg o adolygu trefniadau'r corff a archwiliwyd ar gyfer sicrhau cyfreithlondeb ei wariant. Mae'n rhaid iddynt ystyried a yw'r cyfrifon yn cydymffurffio â gofynion statudol ac, yn achos cyrff GIG, yn cydymffurfio ag arweiniad y Cynulliad Cenedlaethol.

Pwerau Archwilwyr

Mae gan archwilwyr penodedig bwerau arbennig mewn rhai meysydd. Er enghraifft, mae'n rhaid iddynt gael mynediad i bob dogfen y teimlant sy'n angenrheidiol er mwyn iddynt gyflawni eu dyletswyddau archwilio, a gallant ofyn i gyrff dan archwiliad a'u swyddogion am wybodaeth.

Mae gan archwilwyr hefyd amryw bwerau a dyletswyddau os darganfyddant materion ar unrhyw adeg sy'n codi pryderon penodol. Ar gyfer llywodraeth leol a chyrff GIG, er enghraifft, gall yr archwilwyr adrodd yn gyhoeddus ar unrhyw fater y credant sydd er lles y cyhoedd. Mae'n rhaid i'r corff a archwiliwyd gyhoeddi'r ffaith fod y fath adroddiad wedi'i gyhoeddi a'r hyn y mae'n ymdrin ag ef, ac ystyried yr adroddiad mewn cyfarfod cyhoeddus.

Yn achos awdurdodau lleol, gall yr archwilydd wneud cais i'r Uchel Lys am ddatganiad bod eitem yn y cyfrifon yn anghyfreithlon neu, yn achos gweithredu yn y dyfodol yn ymwneud â gwariant anghyfreithlon, cyhoeddi gorchymyn gwahardd.

Os bydd archwilwyr yn darganfod bod colled oherwydd camymddwyn bwriadol neu fethiant i roi cyfrif am arian neu nwyddau, mae'n rhaid iddynt eu hunain roi gorchymyn i'r rhai sy'n gyfrifol i ad-dalu'r arian. Fodd bynnag, mae hawl i apelio yn erbyn y gorchymyn yn yr Uchel Lys. Er eu bod yn bwysig, anaml y defnyddir y swyddogaethau arbennig hyn. Bydd archwilwyr yn ceisio datrys materion heb orfod defnyddio'u swyddogaethau arbennig.

Adrodd yr Archwiliad

Yn ogystal â mynegi barn ynglyn â'r cyfrifon, adrodd ar gynlluniau perfformiad gwerth gorau, ac adrodd ar archwiliadau gwerth am arian lleol i'r corff dan sylw, bydd archwilwyr hefyd yn ysgrifennu llythyr rheoli at bob aelod o'r corff sy'n cael ei archwilio (chynghorwyr mewn llywodraeth leol, aelodau'r bwrdd mewn cyrff GIG.) Mae'r llythyr rheoli yn crynhoi'r prif faterion sydd wedi codi o'r archwiliad a'r camau gweithredu a gytunwyd, er mwyn cyflawni argymhellion yr archwilydd. Mae'r llythyr hefyd yn adolygu cynnydd ar argymhellion blaenorol. Gall y corff sy'n cael ei archwilio fel arfer benderfynu a ddylai gyhoeddi'r llythyr, ac eithrio mewn achosion ble mae'r archwilydd wedi gofyn i'r awdurdod lleol ymateb yn gyhoeddus i argymhellion penodol.

Yn ogystal, o dan Ddeddf Lywodraeth Cymru 1998, gallai'r Comisiwn Archwilio nawr gael ei alw i roi tystiolaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol ynglyn â chanfyddiadau ei waith.


Ail-osodwch Dewis Iaith Diofyn

Dadlwythwch Adobe Acrobat Reader Dadlwythwch Adobe Acrobat Reader

© Y Comisiwn Archwilio ar gyfer Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr a Chymru 2001