|
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol, y Comisiwn Archwilio yng Nghymru a chyrff archwilio ac arolygu eraill i wella'r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus. Rhaglen Cymru ar Gyfer Gwella
(y Rhaglen), a gafodd ei gyflwyno yn 2002, yw'r prif gyfrwng er mwyn cyflawni'r gwelliant yma. Mae gofyn i awdurdodau lleol adolygu eu gallu i ddarparu gwasanaethau yn effeithiol ac yn effeithlon ac i weithio gyda chyrff archwilio ac arolygu i ddarparu a gweithredu cynlluniau gweithredu ar gyfer gwella. Goruchwylir y Rhaglen gan Fwrdd Gwella Cymru. Cliciwch yma i weld yr aelodau a'r amodau gorchwyl.
Proses y Rhaglen
Bob pum mlynedd mae pob cyngor yn cynnal Dadansoddiad Awdurdod Cyfan sy'n dangos ble mae angen iddo wella. Bob hydref mae Asesiad Risg ar y Cyd, sy'n ystyried barn rheoleiddwyr eraill, yn cael ei gytuno gyda'r Comisiwn Archwilio yng Nghymru. Mae angen i'r cyngor ddefnyddio hyn i ddatblygu Cynllun Gwella. Mae'r Comisiwn Archwilio yng Nghymru yn rhoi ei farn ar Gynllun Gwella'r cyngor ac yn paratoi Cynllun Rheoleiddio sy'n gosod lefel yr archwilio ac arolygu fydd yn cael ei gynnal yn ystod y flwyddyn.
Mae elfennau o'r Llythyr Archwilio Blynyddol sy'n cael ei gyhoeddi bob blwyddyn gan archwilydd apwyntiedig y cyngor hefyd yn gysylltiedig a'r Rhaglen. Cliciwch yma i weld pob Llythyr Archwilio Blynyddol.
Elfen newydd o'r broses yw datblygu. Mae'r Daith Wella yn nodi cynydd pob cyngor hyd yn hyn gan gyflwyno crynodeb hawdd i'w ddeall o welliant y cyngor a sut y gall symud yn ei flaen er mwyn darparu gwasanaethau gwell. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Astudiaethau Gwella
Mae themâu cyffredin o asesiadau risg cynghorau yn nodi testunau ble y byddai astudiaeth ym mhob cyngor yn ddefnyddiol. Cliciwch yma am wybodaeth ar Astudiaethau Gwella cyfredol.
Gwasanaethau Tân ac Achub
Yn dilyn datganoli y cyfrifoldeb am Wasanaethau Tân ac Achub i Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae Rhaglen Cymru ar Gyfer Gwella yn cael ei ddatblygu ar gyfer y Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru, er mwyn ei weithredu ym mis
Ebrill 2005. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Cysylltiadau Allweddol ar gyfer Rhaglen Cymru ar Gyfer Gwella yn y Comisiwn Archwilio yng Nghymru
Clive Grace , Cyfarwyddwr Cyffredinol y Comisiwn Archwilio yng Nghymru, Cadeirydd Bwrdd Rhaglen Llywodraeth Leol
Anthony Snow , Cyfarwyddwr Corfforaethol
Julie May , Cydlynydd Rhaglen Cymru ar Gyfer Gwella
Cliciwch yma (Saesneg yn unig – Cymraeg i ddilyn) am fwy o wybodaeth am y Rhaglen a sut gall y Rhaglen gael ei ddatblygu.
Rhaglen Cymru ar Gyfer Gwella 2003/2004 - Adroddiad Cyfarwyddwr-Cyffredinol y Comisiwn Archwilio
yng Nghymru
Rhaglen Cymru ar Gyfer Gwella 2003/2004 - Y Brîff
Gellir lawrlwytho gwybodaeth Dangosyddion Perfformiad yng Nghymru o wefan yr Uned Ddata Llywodraeth Leol yma. |